Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Medi 2016
Amser: 08.30 -
09.14
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Rhun ap Iorwerth AC Paul Davies AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion i’w cyhoeddi.
Byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn gwneud datganiad ar Groesawu’n ôl Athletwyr Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio 2016 ar ddydd Mawrth.
Byddai Plaid Cymru yn defnyddio’r amser a neilltuwyd iddi i gynnal dwy ddadl 30 munud ddydd Mercher.
Byddai’r Cyfnod Pleidleisio ar ddydd Mawrth yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ar ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a
chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr
amserlen:
Dydd Mercher 19 Hydref 2016
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
· Dadl Fer – Neil McEvoy (Canol De Cymru) (30 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi at y Pwyllgor Cyllid ar gyfer ei ystyried.
Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai’n rhaid i’r Bil gael ei basio cyn toriad yr haf er mwyn iddo ddod i rym erbyn mis Ebrill 2018, ac felly na ddylai fod cyfle i ymestyn yr amserlen ar gyfer y Bil ar ôl iddi gael ei chytuno. Nododd hefyd na fyddai modd i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar y Bil yn yr amser hwnnw; yn ei barn hi, dylai Rheolwyr Busnes ystyried cyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
Yn dilyn penderfyniad y Rheolwyr Busnes yn gynnar yn y tymor diwethaf i adolygu’r broses ar gyfer Biliau Aelodau ar sail argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y pedwerydd Cynulliad, trafododd y Pwyllgor gynigion ar gyfer newid y drefn bresennol.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am grynodeb gan yr Ysgrifenyddiaeth ar yr opsiynau posibl. Gwahoddwyd y Pwyllgor i ymgynghori â’u grwpiau a dychwelyd at y mater ymhen tair wythnos.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ymweld â Thŷ’r Arglwyddi ddydd Mercher 12 Hydref 2016.
Yn y cyfarfod ar 13 Medi, trafododd y Rheolwyr Busnes bapur ar y defnydd o amser y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn, gan gytuno i drafod y cynigion â’u grwpiau a dychwelyd at y mater yng nghyfarfod heddiw.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapurau pellach ar ddatganiadau Aelodau a chwestiynau amserol, a chytunwyd y byddai angen cyfathrebu ag Aelodau ynglŷn â’r cyfleoedd sydd ganddynt i gyfrannu at wahanol fathau o fusnes yn y Cyfarfod Llawn.
Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan y Llywydd at y Pwyllgor Deisebau yn holi a ydynt yn bwriadu bwrw ymlaen ag argymhelliad i gynnal dadleuon yn y Cyfarfod Llawn ar ddeisebau sy’n cyrraedd trothwy penodol o ran llofnodion, ac yn gofyn iddynt gadarnhau a ydynt am i’r Pwyllgor Busnes fwrw ymlaen â’r newid i’r Rheol Sefydlog a gynigiwyd yn adroddiad y pwyllgor blaenorol ar ei Adolygiad o Ddeisebau Cyhoeddus.
Nododd y Pwyllgor lythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn nodi ei fwriad i gyflwyno datganiad ar Fil Cymru yn yr wythnosau i ddod.
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru / Dadl ar Fil Cymru
Gofynnodd y Llywydd pryd y byddai’r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru. Dywedodd Jane Hutt wrth Reolwyr Busnes y byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor maes o law.
Datganiadau Pwyllgorau
Yn ystod datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn bresennol ar gyfer yr eitem. Dywedodd y Llywydd y byddai’n annog hyn fel arfer da ar gyfer dadleuon Pwyllgorau yn y dyfodol. Dywedodd Rheolwyr Busnes hefyd ei bod yn ddefnyddiol bod y datganiad wedi cael ei ddosbarthu i bob Aelod cyn ei draddodi yn y Cyfarfod Llawn.
Presenoldeb yn y Cyfarfod Llawn
Dywedodd y Llywydd fod rhai achlysuron yn ystod yr wythnosau diwethaf pan oedd Ysgrifenyddion y Cabinet ac Aelodau wedi cyrraedd yn hwyr, neu wedi cyrraedd ar y funud olaf, ar gyfer eitemau yr oeddent yn siarad ynddynt, a bod Aelodau eraill wedi gadael y Siambr cyn diwedd yr eitemau. Atgoffwyd y Rheolwyr Busnes o’r confensiynau yn y Siambr ac fe’u hanogwyd i godi’r mater gyda’u grwpiau.